Steven Jones
Ganwyd Steven Jones ym 1959 a threuliodd ei flynyddoedd cynnar ym mhentref Llysfaen yng Ngogledd Cymru. Ysbrydolwyd ef i fraslunio a pheintio wrth edrych ar ei amgylchedd a’r golygfeydd panoramig a’i amgylchynai. Enillodd wobr cenedlaethol cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn 10 oed.
Ym 1975 aeth i Goleg Celf Wrecsam, wedyn bu’n gweithio yn Llundain fel darlunydd. Dychwelodd yn ôl i Ogledd Cymru yn 1985 a chanolbwyntiodd ar greu darluniau ar gyfer orielau gan ddangos yn ei waith agweddau o ddylanwad Argraffiadwyr Ffrengig ag artistiaid Newlyn. Daeth ei waith yn boblogaidd, ac ym 1990 sefydlodd ei oriel ei hunan gan gyhoeddi, marchnata a gwerthu ei brintiau cyfyngedig a’i gardiau cyfarch. Ym mis Ionawr 2005 ymddangosodd ar ‘ Y Sioe Gelf ’ ar S4C.
Erbyn hyn mae’n gwerthu ei waith yn Annapolis, UDA ac mewn orielau yn Nulyn, yr Alban, Cernyw a Llundain.






