Croeso

Printiau argraffiad cyfyngedig o Galeri FFRAMIA
Croeso i allfa ar-lein Galeri FFRAMIA. Yma cewch olwg ar brintiau coeth gan artistiaid profiadol, ac archebu dros y wê. Er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth am ein cynnyrch diweddara, nodwch eich cyfeiriad ebost yn y blwch ar waelod y dudalen.
Lluniau ar Werth
Rydym yn gwerthu printiau argraffiad cyfyngedig gan artistiaid megis Keith Bowen, Gerald Gadd, Rob Piercy a William Selwyn. Ymhlith y delweddau a gynigir y mae'r Wyddfa, Tryfan ac amrywiaeth o fynyddoedd eraill Eryri, bythynnod, cestyll, ffermio a physgota. Er mwyn pori ein galeri ar lein, dewiswch Gategori neu Artist o’r ddewislen ar yr ochr chwith neu cofnodwch derm yn y Blwch Chwilio. Gellir prynu ar lein (DU yn unig) neu drwy ymweld â’n galeri yn Llanberis. Ar pob argraffiad cyfyngedig nodir y rhif, ac mae wedi ei arwyddo gan yr artist.
Dewisiad ar hap:
Gwasanaeth Fframio
Dewch a lluniau neu eitemau eraill i’w fframio. Rydym yn cynnig gwasanaeth fframio pwrpasol o’r safon orau, gan ddefnyddio ystod eang o fowldiau fframio a bwrdd mowntio. Gallwn gynnig cyngor ynglŷn â defnyddiau a steiliau fframio. Ewch i dudalen Fframio am ragor o wybodaeth.
Gallwch archebu print o'n cyflenwad eang a'i fframio yn ôl eich dewis.
Dyma'r categoriau.



