Telerau ac Amodau
Gwybodaeth Cyffredinol
Mae Fframia Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru. Prif weithgaredd y busnes yw gwerthu printiau a fframio darluniau.
Gydag ymholiadau ysgrifenedig cysylltwch â Fframia Cyf yn y cyfeiriad yma: Fframia Cyf, Uned 4, Parc Padarn, Llanberis, Gwynedd. LL55 4TY. Dyma'r cyfeiriad hefyd ar gyfer y gweithdy a'r oriel. Rydym yn croesawu ymwelwyr, ewch i'r dudalen ‘amdanom ni' ar gyfer oriau agor.
Dylid gyrru ymholiadau e-bost at post@fframia.com
Ymholiadau dros y ffôn yn ystod oriau gwaith 01286 870922
Cofrestrwyd y cwmni yng Nghymru a Lloegr. Rhif y Cwmni - 4699654. Cyfeiriad cofrestredig yw Fframia Cyf, Glaslyn, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd. LL57 4FE (Ni ddylid defnyddio'r cyfeiriad yma ar gyfer ymholiadau nac i ddychwelyd nwyddau.)
Arian cyfredol
Mae'r wefan yn derbyn taliadau drwy PayPal mewn Punnoedd Sterling. Derbynnir y rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd.
Treth
Ni ychwanegir TAW i'r prisiau ar y wefan.
Cludiant , Dychwelyd Nwyddau ac Ad-daliad
Cludiant
Anelwn i brosesu archebion y diwrnod gwaith cyntaf wedi derbyn yr archeb. Anelwn i anfon y nwyddau o fewn 3 - 5 diwrnod gwaith. Os na allwn gyflawni'r archeb o fewn yr amser byddwn yn anfon e-bost i'ch hysbysu o'r dyddiad tebygol bydd y nwyddau yn cyrraedd. Os nad yw'r dyddiad yma yn dderbyniol, bydd yr archeb yn cael ei ddiddymu ac ad-daliad llawn yn cael ei roi. Byddwn yn e-bostio cwsmeriaid wrth anfon archebion, ar brydiau bydd yn ofynnol arwyddo wrth dderbyn nwyddau. Defnyddiwn ‘Y Post Brenhinol' i gludo nwyddau.
Dychwelyd nwyddau
Mae hawl dychwelyd nwyddau o fewn 7 diwrnod i'w derbyn. Byddwch yn derbyn ad-daliad ar gyfer pris llawn y nwyddau ond ni ddychwelir costau postio. Er mwyn dychwelyd nwyddau dylid hysbysu'r cwmni drwy e-bost a lapio'r nwyddau yn y defnydd pacio gwreiddiol os yn bosib. Dylid cael ‘tystiolaeth postio' neu yswiriant er mwyn hawlio iawndal rhag ofn i'r nwyddau fynd ar goll neu gael eu difrodi yn y post. Mae cyfrifoldeb costau dychwelyd drwy'r post ar y prynwr.
Ein nod yw cyflenwi archebion gyda nwyddau o'r radd flaenaf, os oes diffyg, difrod neu gamgymeriad i'r nwyddau a dderbyniwch, hysbyswch y cwmni ar unwaith er mwyn derbyn amnewidiad neu ad-daliad. Byddwn yn talu costau cludiant ar gyfer y nwyddau diffygiol hyn.
Polisi Preifatrwydd
Gwarchod Data
Bydd Fframia yn casglu manylion personol (ee enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a manylion cerdyn credid) pan gofnodir yr wybodaeth yn wirfoddol wrth ymholi neu archebu cynnyrch. Ni throsglwyddir y manylion am arian gydag unrhyw gwmni nag unigolyn y tu allan i gwmni Fframia. Ni rennir y manylion personol heb ganiatâd ar wahân i ofynion cyfraith.
Beth wnawn á'r wybodaeth
Defnyddiwn yr wybodaeth er mwyn cwblhau archebion. Wrth archebu o'n safle rydych yn cytuno i'r manylion personol / ariannol gael ei rannu a sefydliadau trydydd person sy'n angenrheidiol er mwyn prosesu eich archeb gyda Fframia ee cwmnïau credyd, banciau ac ati. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ariannol gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd.
Gwybodaeth a'r Gyfraith
Ar brydiau trosglwyddir manylion i gydymffurfio a gofynion cyfreithlon - er mwyn cyfiawnhau termau gwerthiant, neu i ddiogelu hawliau a diogelwch Fframia, defnyddwyr y wefan ac eraill.
Mesuriadau Diogelwch
Rydym yn ymrwymo i sicrhau diogelwch eich manylion personol / ariannol. Defnyddiwn 128 bit Secure Socket Layer (SSL) encryption ar gyfer trafodion gyda Fframia. Mae'r system yma yn amgryptio eich manylion personol, yn cynnwys rhifau cardiau credyd, enw a chyfeiriad, fel na ellir darllen os ceir ei rhyng-gipio gan drydydd parti maleisus.
