Amdanom Ni

Gweithdy Fframia

Ers dros 10 mlynedd mae cwmni Fframia wedi cynnal gweithdy a galeri o’r ganolfan yn Llanberis, Gogledd Cymru. Yn ystod y cyfnod yma rydym wedi datblygu ein gwybodaeth ac wedi ennill profiad yn gwerthu a fframio gwaith celf.

Dysgom fod saernïaeth dda, a’r defnydd o adnoddau safonol ynghyd a gwasanaeth cyfeillgar a dibynnol yn bodloni ein cwsmeriaid. Mae llawer o’n busnes yn deillio o argymhellion gan ein cwsmeriaid bodlon ac wrth gwrs maent hwythau yn ail ymweld â ni. Defnyddir ein gwasanaeth fframio gan lawer o artistiaid enwog yr ardal oherwydd ein bod yn ddibynnol ac yn wybodus wrth ein crefft.

Yn ein galeri ceir arddangosfa helaeth o brintiau argraffiad cyfyngedig gan artistiaid gorau’r ardal. Gellir archebu'r rhain wedi fframio, yn fowntiedig neu yn rhydd. Hefyd ar werth yn y gweithdy, mae casgliad da o brintiau eraill mowntiedig ac wedi fframio.

Ymwelwch â ni

Galeri Fframia

Mae'r Galeri ar agor rhwng 10.00am. a 4.30pm. o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn yn ystod y gaeaf a phob dydd yn yr hâf. Mae'r dudalen lleoliad yn dangos sut i'n cyrraedd. Croeso i chi gysylltu a ni drwy e-bost neu galwad ffôn.