Kyffin Williams
Bu Kyffin Williams yn astudio yn Slade School of Fine Art, Llundain o 1941 hyd 1944, cyn mynd ymlaen i fod yn Athro Celf yn Ysgol Highgate.
Yn 1968 ennillodd ‘Winston Churchill Fellowship’ i gadw cofnod o'r Cymry ym Mhatagonia.
Dangosodd ei waith yn rheolaidd yn Thackery Gallery, Llundain ag Oriel Albany, Caerdydd.
Cynhaliwyd adolwg o’i waith yn 1987 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, Oriel Mostyn, Llandudno a’r Glynn Vivian, Abertawe.
Cafwyd adolwg o’i bortreadau yn Oriel Ynys Môn, Llangefni yn 1993.
Roedd yn Llywydd y ‘Royal Cambrian Academy’. Bu farw yn 2006.
Kyffin Williams - Printiau ar werth:
No prints currently available
