William Selwyn

Ganwyd William Selwyn yng Nghaernarfon yn 1933. Ym 1954, ar ôl treulio dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda'r Royal Artillery, astudiodd yn y Coleg Normal, Bangor tan 1956. Wedi hynny bu'n athro yn Ysgol Iau Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon hyd ei ymddeoliad yn 1990.

Canolbwynt ei waith celf yw tirlun Gwynedd - ei gweithwyr fferm a'i physgotwyr. Mae'n aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig. Ym 1988 enillodd yr 11eg Arddangosfa Singer a Friedlander/Sunday Times gyda'i ddyfrliw o Fwlch Llanberis. Bu hefyd yn Arlunydd Cymreig y Flwyddyn 2001 ac enillydd Hyd a Lledrith Llyn 2003.

Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Món, ynghyd a Phrifysgol Cymru Bangor, Cyngor y Celfyddydau, Prifysgol Bath a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn berchen ar ei luniau. Mae ei waith hefyd i'w weld mewn nifer o gasgliadau peifat yng Nghymru a thramor.

William Selwyn - Printiau ar werth: