Rob Piercy
Ganwyd Rob Piercy ym Mhorthmadog, Gogledd Cymru. Wedi hyfforddi fel athro celf, bu'n dysgu am 15 mlynedd. Yn 1989 gadawodd ei swydd er mwyn canolbwyntio ar ei gelfyddyd. Mae Rob yn aelod o'r Academi Brenhinol Gymreig a Chymdeithas Dyfrlliw Cymru. Bu'n cynnal arddangosfeydd unigol ar draws y Deyrnas Unedig ac mae'n arddangos yn gyson ar gyfer Gwobr Celf Singer a Friedlander / Sunday Times.


