Chwilio

Categoriau
Arlunwyr
Archebu dros y we
Solution Graphics

Telerau ac Amodau

Gwybodaeth Cyffredinol

Mae Fframia wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru. Prif weithgaredd y busnes yw gwerthu printiau a fframio darluniau.

Gydag ymholiadau ysgrifenedig cysylltwch â Fframia yn y cyfeiriad yma: Fframia, Uned 4, Parc Padarn, Llanberis, Gwynedd. LL55 4TY. Dyma'r cyfeiriad hefyd ar gyfer y gweithdy a'r oriel. Rydym yn croesawu ymwelwyr, ewch i'r dudalen ‘amdanom ni' ar gyfer oriau agor.

Dylid gyrru ymholiadau e-bost at [email protected]

Ymholiadau dros y ffôn yn ystod oriau gwaith 01286 870922

Polisi Preifatrwydd

Gwarchod Data

Bydd Fframia yn casglu manylion personol (ee enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a manylion cerdyn credid) pan gofnodir yr wybodaeth yn wirfoddol wrth ymholi neu archebu cynnyrch. Ni throsglwyddir y manylion am arian gydag unrhyw gwmni nag unigolyn y tu allan i gwmni Fframia. Ni rennir y manylion personol heb ganiatâd ar wahân i ofynion cyfraith.

Beth wnawn á'r wybodaeth

Defnyddiwn yr wybodaeth er mwyn cwblhau archebion. Wrth archebu o'n safle rydych yn cytuno i'r manylion personol / ariannol gael ei rannu a sefydliadau trydydd person sy'n angenrheidiol er mwyn prosesu eich archeb gyda Fframia ee cwmnïau credyd, banciau ac ati. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ariannol gydag unrhyw un arall heb eich caniatâd.

Gwybodaeth a'r Gyfraith

Ar brydiau trosglwyddir manylion i gydymffurfio a gofynion cyfreithlon - er mwyn cyfiawnhau termau gwerthiant, neu i ddiogelu hawliau a diogelwch Fframia, defnyddwyr y wefan ac eraill.

Mesuriadau Diogelwch

Rydym yn ymrwymo i sicrhau diogelwch eich manylion personol / ariannol. Defnyddiwn 128 bit Secure Socket Layer (SSL) encryption ar gyfer trafodion gyda Fframia. Mae'r system yma yn amgryptio eich manylion personol, yn cynnwys rhifau cardiau credyd, enw a chyfeiriad, fel na ellir darllen os ceir ei rhyng-gipio gan drydydd parti maleisus.